
2007- i’r presennol
Ganwyd: 20 Chwefror 1951
Cartref a Theulu
Ganwyd Gordon Brown yn 1951, yr ail o dri mab. Fe’i magwyd yn nhref Kirkcaldy, canolfan ddiwydiannol sydd yn enwog am ei diwydiannau linoliwm a mwyngloddio. Wrth i Mr Brown dyfu, yr oedd y dref yn newid yn sylweddol, gyda diweithdra cynyddol a thlodi mawr.
Bu rhieni Gordon Brown, John ac Elizabeth, yn ddylanwad mawr ar ei fywyd. Roedd ei dad yn weinidog yr Efengyl, ond roedd hefyd yn chwarae rôl ganolog ym mywyd y dref. Cofia Gordon Brown fod gan ei dad fwy o ddiddordeb mewn helpu pobl na brwdfrydedd diwinyddol. Roedd yn aml yn helpu’r rheiny oedd mewn amgylchiadau caled a welai’r mans fel eu hunig loches i gael cymorth.
Cofia Mr Brown ei dad yn dyfynnu geiriau Martin Luther King: “fe all pawb fod yn fawr gan fod pawb yn gallu gwasanaethu.” Dywedodd fod ei rieni yn
“ysbrydoliaeth i mi, ac rwyf yn wleidydd oherwydd eu dylanwad nhw.”
Fel llawer o fechgyn eraill yn yr Alban, roedd hoffter Mr Brown o bêl-droed yn angerddol. Daeth yn gefnogwr selog o Raith Rovers pan oedd yn blentyn ac enillodd arian poced trwy werthu rhaglenni ar ran y tîm. Cynhyrchodd bapur newydd gyda’i frodyr hefyd a gwerthwyd hwnnw i godi arian i elusen.
Priododd Mr Brown ei wraig Sarah yn eu cartref yng Ngogledd Queensferry ar 3 Awst 2000. Mae ganddynt ddau fab, John a Fraser.
Mae Mrs Brown yn gweithio gyda’r elusen plant PiggyBankKids, sydd yn cefnogi Labordy Ymchwil Jennifer Brown, prosiect a sefydlwyd er cof am eu merch.
Addysg a gyrfa gynnar
Gwnaeth Mr Brown yn dda yn yr ysgol ers ei ddyddiau cynnar. Ymunodd ag Ysgol Uwchradd Kirkcaldy pan oedd yn ddeng mlwydd oed, lle’r oedd yn rhagori ym maes chwaraeon. Cymrodd ran ym mob agwedd ar fywyd ysgol, gan ddod yn boblogaidd yn gyflym iawn, ac roedd ganddo ddiddordeb cynnar mewn ymgyrchoedd gwleidyddol lleol.
Safodd ei arholiadau flwyddyn cyn ei gyfoedion - ei Lefelau ‘O’ yn 14, a’i Arholiadau Uwch (’Highers’) yn 15. Ar ôl ennill cystadleuaeth bwrsariaeth, aeth i’r brifysgol yn 15 mlwydd oed - un o’r myfyrwyr ieuengaf i fynd i Brifysgol Caeredin ers y rhyfel.
Mwynhaodd Mr Brown wleidyddiaeth myfyrwyr a’r dadlau ym mhapur newydd y myfyrwyr. Roedd yn olygydd pan enillodd y papur newydd sawl gwobr. Parhaodd gyda’i ddiddordeb mewn chwaraeon.
Cyn iddo fynd i’r brifysgol, cafodd Mr Brown anaf i’w lygad yn chwarae rygbi i dîm yr ysgol. Wedi cael diagnosis o retina datgysylltiedig - ac yn nes ymlaen, yn y ddwy lygad - fe dreuliodd ran helaeth o’i flynyddoedd cynnar yn y brifysgol yn yr ysbyty neu’n gwella.
Wedi derbyn gradd ag anrhydedd Dosbarth Cyntaf ynghyd â nifer o wobrau am ei astudiaethau, yn 1972, fe ddaeth Mr Brown yn Rheithor ieuengaf erioed Prifysgol Caeredin.
Mae Mr Brown hefyd wedi bod yn ddarlithiwr coleg a phrifysgol ac yn awdur nifer o lyfrau. Mae ei lyfr ar James Maxton yn trin Aelodau Seneddol Llafur cynnar a’u brwydrau. Mae ‘Values, Visions and Voices’ yn astudiaeth o ddelfrydiaeth ac eiddgarwch meddylwyr cynnar Llafur. Ac mae ‘The Real Divide’, a ysgrifennodd gyda Robin Cook, yn astudiaeth o dlodi ac anghydraddoldeb. Yn ddiweddar, argraffwyd casgliad o’i areithiau dan yr enw ‘Moving Britain Forward’.
Ar ôl sefyll yn aflwyddiannus yn erbyn Michael Ancram yn etholaeth Geidwadol De Caeredin yn 1979, daeth Mr Brown yn Aelod Seneddol ar gyfer Dwyrain Dunfermline yn 1983 gan ennill mwyafrif o 11,000.
I Mewn i’r Senedd
Yn 1983, fel AS Dwyrain Dunfermline a Chadeirydd Cyngor Plaid Lafur yr Alban, rhannodd Mr Brown ei swyddfa gyntaf yn Nhy’r Cyffredin â Tony Blair a daeth y ddau yn ffrindiau.
Pwnc araith gyntaf Mr Brown oedd problem diweithdra cynyddol, pan ddywedodd:
“Mae siawns labrwr o gael swydd yn fy etholaeth yn 150 i 1 yn erbyn. Dim ond un swydd wag sydd yn y swyddfa gyrfaoedd leol ar gyfer tua 500 o blant yn eu harddegau sydd newydd adael ysgol.”
Sylwodd Neil Kinnock yn gyflym ei fod yn wleidydd dawnus, a daeth Mr Brown yn Llefarydd ar gyfer Masnach a Diwydiant yr Wrthblaid, yn gweithio gyda John Smith, a ffurfiodd y ddau berthynas waith agos. Pan ddaeth John Smith yn arweinydd, apwyntiodd Gordon Brown fel Canghellor yr Wrthblaid.
Ar ôl marwolaeth sydyn John Smith, arhosodd Mr Brown yn Ganghellor yr Wrthblaid a chefnogodd Tony Blair ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur. Drwy weithio ar y cyd, enillon nhw fwyafrif mawr yn 1997.
Canghellor y Trysorlys
Fel Canghellor y Trysorlys, bu Gordon Brown yn llywyddu am y cyfnod hwyaf o dwf a welodd y wlad erioed. Gwnaeth Fanc Lloegr yn annibynnol a chyflwynodd gytundeb yn Uwchgynhadledd Gleneagles yn 2005, i gefnogi gwledydd tlotaf y byd a helpu i daclo newid hinsawdd.
Dyma sut mae Mr Brown yn crynhoi ei ddaliadau:
“dylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd, dylai pawb gael cyfle i weithio, ac ni ddylai unrhyw un gael ei fagu yn dioddef o dlodi. Byddwn i’n eu galw yn ddaliadau yr ydych yn eu cysylltu â gwareiddiad ac urddas.”

delicious
digg
facebook

